#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-5-710

Teitl y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen arnynt

Testun y Ddeiseb: ​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl [ifanc] anabl yn cael yr hawl i drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch pan fo’i hangen heb yr angen i gynllunio cymorth o leiaf 24 awr ymlaen llaw.  Bydd hyn yn ein galluogi i fod yn annibynnol, chwilio am swydd, teithio i’r gwaith a chwrdd â ffrindiau ar fyr rybudd. Mae Llysgenhadon Whizz-Kidz hefyd yn ymgyrchu i sicrhau hyfforddiant hanfodol mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chymorth ym maes anabledd, ar gyfer gyrwyr tacsis a bysiau yn ogystal â staff ar drenau.

Y cefndir

Mae hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus yn fater i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac nid yw deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu yn fater datganoledig.  Fodd bynnag, mae'n ofynnol ar Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau cyhoeddus perthnasol eraill i weithredu yn unol â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae gan Lywodraeth Cymru bwerau a chyfrifoldebau sylweddol mewn perthynas â nifer o fathau o drafnidiaeth gyhoeddus, os nad pob un ohonynt.

Gwasanaethau Rheilffyrdd 

Nid yw'r gyfundrefn fasnachfraint ar gyfer y rheilffyrdd wedi'i datganoli ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau o ddydd i ddydd, gan gynnwys ariannu'r gwasanaethau a ddarperir yn gyfan gwbl yng Nghymru ("gwasanaethau Cymru yn unig"), a'r gwasanaethau sy'n dechrau neu'n gorffen yng Nghymru ("gwasanaethau Cymreig"). 

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn trafod datganoli pwerau gweithredol ar gyfer y broses o gaffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru o 2018 ymlaen.  Disgwylir i'r pwerau hyn gael eu datganoli yn 2017, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau paratoi ar gyfer y fasnachfraint nesaf.

O dan gyfundrefn y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, sef rheolydd y rheilffyrdd, mae gofyn i'r holl gwmnïau trwyddedig sy'n gweithredu trenau neu orsafoedd lunio Polisi Diogelu Personau Anabl a chydymffurfio â'r polisi hwnnw.  Mae'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch llunio'r polisïau hyn (PDF672 KB).   

Mae'r gofyniad i gydymffurfio â gofynion trwyddedu yn fater i'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, sydd hefyd yn gyfrifol am orfodi cydymffurfiaeth â Pholisïau Diogelu Personau Anabl.  O ran hyfforddiant, mae Polisi Diogelu Personau Anabl Trenau Arriva Cymru yn nodi:

Rhoddir hyfforddiant i'r staff i adnabod a chynorthwyo teithwyr sydd ag anghenion ychwanegol a byddwn yn gwella'n barhaus y ffordd y caiff ein gwasanaethau a'n cyfleusterau eu cyflenwi i'r holl deithwyr.

O ran cymorth i deithwyr, mae'r polisi'n nodi:

Rydym yn cymryd rhan yn Passenger Assist. Mae'r system hon yn galluogi teithwyr hŷn ac anabl i gadw sedd neu le i gadair olwyn ar drên, i drefnu cymorth ymlaen llaw ac i brynu tocynnau. Yn ogystal â threfnu cymorth i deithio ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru, gallwn eich cynorthwyo i drefnu cymorth ar deithiau ar rwydwaith y Rheilffyrdd Cenedlaethol pan rydych chi’n teithio gyda chwmnïau trên eraill.

Gwasanaethau bysiau

Er bod y farchnad fysiau yng Nghymru wedi'i dadreoleiddio, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisïau ar fysiau y mae'n eu gweithredu i raddau helaeth drwy gyllid a ddarperir i awdurdodau lleol at ddibenion cefnogi gwasanaethau bysiau yn eu hardal.

Cyflwynodd Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Bolisi Bysiau adroddiad ym mis Mehefin 2014 a oedd yn ymdrin â materion yn ymwneud â theithwyr anabl. O ran hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anabledd, roedd yr adroddiad yn nodi (Saesneg yn unig):

We considered practical ways of ensuring that drivers are aware of the needs of disabled passengers. Drivers are already required to maintain their Driver Certificate of Professional Competence (DCPC) which includes some disability awareness, either provided in-house or externally procured. This advantage is that there is 100% participation and regular updating. There is potential for a Welsh module to be developed which would ensure consistency across Wales and reflect disabled people’s concerns.

Roedd y grŵp yn argymell:

-      Cyflwyno cynllun safonol 'waled oren' ledled Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gan adlewyrchu arferion gorau presennol cynlluniau llai o amgylch Cymru.

-      Gwneud gwaith pellach er mwyn cyflwyno modiwl o’r dystysgrif cymhwysedd proffesiynol i yrwyr yng Nghymru ar ymwybyddiaeth ynghylch anabledd.

-      Sefydlu prosiect i archwilio'r posibilrwydd o gynyddu'r defnydd o dechnoleg ddigidol â chost isel iddi er mwyn helpu pobl anabl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwasanaethau tacsi

Er mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drwyddedu a rheoleiddio tacsis, nid yw'r pwerau hyn wedi'u datganoli ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, bydd Bil Cymru, sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd, yn datganoli'r pwerau ar gyfer trwyddedu tacsis, cerbydau hurio preifat a chwmnïau cerbydau hurio preifat i'r Cynulliad.

Cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU ei chanllawiau mwyaf diweddar ar y broses o drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat ym mis Mawrth 2010.  Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â materion hygyrchedd yng nghyd-destun y dyletswyddau a sefydlwyd gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Mae'r Ddeddf honno bellach wedi'i diddymu a'i chydgrynhoi â deddfwriaeth arall fel rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  O ran darparu hyfforddiant i yrwyr, mae'r canllawiau yn nodi ym mharagraff 15:

Local licensing authorities should also encourage their drivers to undertake disability awareness training, perhaps as part of the course mentioned in the training section of this guidance that is available through Go-Skills.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Amcanion Cydraddoldeb Strategol

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen a ganlyn: Amcanion Cydraddoldeb 2016-2020: gwneud Cymru'n genedl decach.  Diben yr amcanion hyn yw:

cryfhau’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd o un flwyddyn i’r llall o ran hybu cydraddoldeb a chynhwysiant i’r holl grwpiau gwarchodedig.

Mae amcan 1 yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:

Gwneud anghenion, hawliau a chyfraniadau pobl â nodweddion gwarchodedig yn ganolog i’r broses o ddylunio a darparu’r holl wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl, addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol a chludiant. Yn benodol, sicrhau cymorth a mynd i’r afael â rhwystrau i alluogi pobl anabl i fwynhau eu hawl i fyw’n annibynnol a bod â llais, dewis a rheolaeth yn eu bywydau.

Gwasanaethau Rheilffyrdd

Gan ragweld y bydd pwerau gweithredol i ddyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf yn cael eu datganoli, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ionawr 2016, sef Pennu Cyfeiriad Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.  Nod yr ymgynghoriad hwn oedd casglu sylwadau ynghylch "y ffordd fwyaf effeithiol [i Lywodraeth Cymru] gyflawni’r ddyletswydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ymwneud â chydraddoldeb yn y sector cyhoeddus." 

Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad bellach wedi'i gyhoeddi.  O safbwynt hygyrchedd, mae'r crynodeb hwn yn nodi'r pwyntiau a ganlyn:

Dywedodd grwpiau o bobl anabl y gallai’r trefniadau cytundebol hefyd gynnwys gwella hygyrchedd. Awgrymwyd y dylid annog gweithredwyr i ystyried sut y gallant sicrhau bod pobl anabl yn gallu cyrraedd yr orsaf a chychwyn ar eu taith heb orfod trefnu ymlaen llaw i sicrhau y gallant ddefnyddio’r orsaf yn hyderus.

Ar 12 Gorffennaf 2016, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro. Wrth amlinellu'r camau nesaf yn y broses, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at ymgynghoriad cyhoeddus arall:

Bydd y broses yn cynnwys rhaglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phan fo gennym set glir o gynigion ar gyfer contract newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arall.  Yn amodol ar broses lwyddiannus, byddwn yn dyfarnu’r contract hwnnw ar ddiwedd 2017.

Mae llythyr gan yr Ysgrifennydd Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn tynnu sylw at y ffaith nad oes gan dri chwarter o'r gorsafoedd a reolir gan gwmni Trenau Arriva Cymru fel rhan o Fasnachfraint Cymru a'r Gororau unrhyw staff. Mae'n nodi y bydd hyn yn dod â heriau penodol i'r cwmni sy'n gweithredu trenau yng Nghymru o ran sicrhau bod gan bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig fynediad at wasanaethau rheilffyrdd.

Gwasanaethau bysiau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau sy'n cynnwys canllawiau ar "Gynwysoldeb a Hygyrchedd y Broses Ymgynghori ar Newidiadau mewn Gwasanaethau Trafnidiaeth yng Nghymru". 

Yn ogystal, yn dilyn adroddiad y Grŵp Cynghori ar Bolisi Bysiau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Safon Wirfoddol Ansawdd Bysiau Cymru. Bwriad y Llywodraeth yw sicrhau na fydd gan y cwmnïau nad ydynt yn cyrraedd y safon graidd y cytunwyd arni yr hawl i wneud cais am arian cyhoeddus sydd ar gael drwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau, sef prif gyfrwng ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi gwasanaethau bysiau. Mae'r grant yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol Cymru.

Mae dwy lefel ynghlwm wrth y safonau: gofynion craidd; a gofynion uwch.  Mae'n rhaid bodloni'r gofynion craidd er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau.  Mae'r gofynion a ganlyn ymhlith y gofynion hygyrchedd:

§    bod y cerbydau a weithredir ganddynt yn cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 ac unrhyw ddeddfwriaeth gysylltiedig; a bod

§    cyfarpar sain / gweledol yn darparu gwybodaeth am yr arhosfan nesaf wedi'i osod, yn weithredol ac yn cael ei ddefnyddio ar gerbydau a gaffaelwyd ar ôl 2015 a'i ddefnyddio wrth gludo teithwyr (dim ond yn berthnasol fel gofyniad craidd yn unig i weithredwyr â 50 neu fwy o gerbydau yn gweithredu yng Nghymru);.

 

Mae'r gofynion manwl yn cynnwys gofyniad sy'n ymwneud â chyfran y gyrwyr sydd wedi cwblhau modiwl y dystysgrif cymhwysedd proffesiynol mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chydraddoldeb. Mae pwyntiau yn cael eu dyfarnu yn ôl y gyfran o yrwyr sy'n cyrraedd y safon hon.  Yn sgil bodloni'r gofynion uwch, dylai cwmnïau gael yr hawl i gael taliad premiwm gan eu hawdurdodau lleol.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad Ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru.  Wrth ystyried ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, cyhoeddodd dystiolaeth o'r hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel "catalog o broblemau a wynebir gan deithwyr anabl wrth deithio ar wasanaethau bws a thrên yng Nghymru".  Argymhellodd yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar yr argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal  y Trydydd Cynulliad yn ei ymchwiliad i effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar hygyrchedd gwasanaethau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl yng Nghymru.

Yn dilyn hynny, cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a chyflwynodd adroddiad ar y mater ym mis Rhagfyr 2013.  Tynnodd yr adroddiad sylw at dystiolaeth a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau mynediad i bobl ag anableddau.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.